DDEWISLEN

Am y tair blynedd diwethaf, mae Mesur y Mynydd wedi bod yn casglu profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, neu o fod yn ofalwr di-dâl, i ddeall mwy am brofiadau pobl o ddydd i ddydd. Rydym hefyd wedi cynnal dau Reithgor Dinasyddion i archwilio themâu allweddol a gododd o’r storïau yn fwy manwl.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith wedi bod yn elfen bwysig tuag at ddeall effaith gynnar Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein hadroddiadau terfynol o 2019/2020 ac mae'r rhain ar gael ar www.mym.cymru ynghyd â'r adroddiadau o 2018 a dogfennau allweddol a fideos yr ydym wedi'u gwneud dros oes y prosiect.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cronfa ddata o dros 450 o storïau a rannwyd gyda ni. Mae'r rhain yn ffurfio cronfa wybodaeth hynod werthfawr y gobeithiwn sy'n ddefnyddiol i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal a chymorth ac o'i gwmpas i lywio arfer, cynorthwyo penderfyniadau polisi a dylanwadu ar ffocws prosiectau ymchwil yn y dyfodol.

Bu gwaith Mesur y Mynydd yn bosibl yn unig o ganlyniad i haelioni pobl yng Nghymru yn rhannu eu storïau gyda ni ac yn cymryd rhan yn y Rheithgorau Dinasyddion. Mae wedi bod yn dyst i barodrwydd pobl i gymryd rhan mewn ymchwil, i fod eisiau defnyddio eu profiadau i ddylanwadu ar newid a sicrhau gwelliannau, ac o frwdfrydedd pobl dros brosesau a arweinir gan ddinasyddion sy'n dylanwadu ar bolisi ac arfer.

Roedd gwaith ein Rheithwyr yn 2018 a 2020 yn anhygoel, gan gynhyrchu cyfanswm o 31 argymhelliad. Gallwch ddod o hyd i'w hadroddiadau a'r argymhellion sydd ynddynt ar www.mym.cymru/y-rheithgorau-dinasyddion ac os ymwelwch â'n sianel YouTube (naill ai trwy www.mym.cymru neu trwy chwilio 'Measuring the Mountain' ar YouTube) dewch o hyd i recordiadau o sesiynau Rheithgor Dinasyddion 2020. Mae'r rhain yn ffynhonnell wybodaeth wych sy’n llawn trafodaeth graff a chwestiynau meddylgar gan ein Rheithwyr.

Mae'r mynydd yn dal i fod gryn ffordd o gael ei fesur yn llawn, fodd bynnag, mae'r gwaith rydym wedi'i wneud ers 2018 wedi mynd â ni o leiaf rhywfaint o'r ffordd yno. Gobeithiwn ein bod wedi gadael etifeddiaeth o wybodaeth ac adnoddau gwerthfawr fel y gall eraill barhau i ddysgu a datblygu eu polisïau a'u harferion.

Bydd yr adroddiadau, y storïau a'r argymhellion a roddir ar www.mym.cymru yno tan 2026 - rhannwch nhw, defnyddiwch nhw a helpwch i fesur ychydig mwy o'r mynydd.